Diweddariad Covid-19 >

Dysgu Galwedigaethol

yn Llancaiach Fawr

  • Dysgu Galwedigaethol

    Gyda’r cynnydd sylweddol mewn cyrsiau galwedigaethol sydd ar gael, mae Llancaiach Fawr yn cydnabod bod nifer o ysgolion a cholegau yn chwilio am hyfforddiant sydd wedi’u targedu at bynciau penodol neu amcanion addysgol.

    Felly, rydyn ni wedi datblygu amrywiaeth o hyfforddiant arbenigol sy’n addas i fyfyrwyr o bob oedran sy’n astudio cyrsiau penodol.

    Mae’r rhain yn cynnwys taith gerdded o gwmpas y Maenordy sy’n canolbwyntio ar bwnc neu thema benodol cyn cael gweithdy gyda’n Swyddog Addysg a gwaith papur cynorthwyol i bob myfyriwr i atgyfnerthu addysg a syniadau ar gyfer datblygiad pellach.


    Bagloriaeth Cymru

    Cymru, Ewrop a’r Byd

    Rydyn ni’n cynnig taith a gweithdy wedi’u targedu at y pwnc craidd hwn sy’n tynnu sylw at y newidiadau o gymdeithas wledig drwy ddiwydiannu dwys a’r canlyniadau.

    Unigryw

    Mae gweithdai Bagloriaeth Cymru sydd wedi’u teilwra i ofynion penodol ar gael ar gais. Cysylltwch â Louise Griffith, Swyddog Dysgu, ar 01443 412248 neu GriffL9@caerffili.gov.uk


    Astudiaethau Gofal Plant

    Sut mae triniaeth a gofal plant yn wahanol yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid gan gynnwys sesiwn ymarferol.


    Gofal harddwch, ffasiwn ac ymddangosiad

    17eg ganrif a heddiw, yn cynnwys gwneud pelen olchi a chwdyn persawr.

    Y gost ar gyfer teithiau arbenigol a’r gweithdy yw £7.00 y myfyriwr (maint grŵp lleiaf yw 15).


    Astudiaethau Hamdden, Twristiaeth a Busnes

    Busnes Llancaiach Fawr

    Taith a gweithdy sy’n rhoi trosolwg cyffredinol o weithrediad atyniad twristiaeth sydd wedi ennill gwobrau neu gyda phwyslais ar bynciau penodol fel cyfathrebu, marchnata neu wasanaethau i gwsmeriaid.

    £8.00 y myfyriwr (maint grŵp lleiaf yw 15)


    Arall

    Athrawon dan hyfforddiant / Myfyrwyr Drama

    Taith gerdded o’r Maenordy a gweithdy ar Athroniaeth Dehongliad Byw a defnydd o dechnegau dehongli person cyntaf yn Llancaiach Fawr. Sgwrs am y rhesymau dros ddefnyddio’r dull hwn ac ansawdd a phriodoldeb theatr amgueddfa. Wedyn bydd sesiwn cwestiwn ac ateb.

    30 munud. Y gost yw £8.00 y myfyriwr (maint grŵp lleiaf yw 15)

    Addysg sy’n Gysylltiedig â Gwaith, Addysg Bersonol a Chymdeithasol

    Gallwn ni gynnig cyfuniadau unigryw o unrhyw un o’r themâu uchod (ynghyd â’r rhai a restrir ar Sylfaen – CA3 ) a/neu byddwn ni’n hapus i deilwra teithiau a gweithdai i themâu a phynciau penodol.

    Lleoliadau / Profiad Gwaith i Fyfyrwyr

    Rydyn ni’n cynnig lleoliadau tymor bir a thymor hir.

    Am wybodaeth ar unrhyw un neu ragor o’r uchod, cysylltwch â Louise Griffith, Swyddog Dysgu gyda’ch anghenion neu awgrymiadau. 01443 412248 neu Griffl9@caerffili.gov.uk