Diweddariad Covid-19 >

Ymweld â ni

yn Llancaiach Fawr

  • Amseroedd agor

    Dydd Mawrth i ddydd Sul 10am – 5pm rhwng Ionawr a Nadolig (AR GAU rhwng 24 Rhagfyr a 3 Ionawr)

    Yn dechrau y penwythnos hwn, Ebrill 22ain, bydd teithiau o gwmpas y tŷ Faenordy yn digwydd ar amserau penodol. Bydd teithiau ar gael am 10 o’r gloch neu 11:30 y bore ac 1:45 a 3:15 y prynhawn (mynediad olaf). Bydd y teithiau hyn yn teithiau tywys yn unig ac na fydd cerdded o gwmpas y tŷ ar eich hun yn ganiatáu. Nodwich nid ydy’r rheol hwn yn berthnasol am deithiau sy’n digwydd Dydd Mawrth i Ddydd Gwener.

    DYDD LLUN AR GAU (gan gynnwys Gwyliau Banc).

    Y mynediad olaf i’r tŷ yw 1 awr cyn cau. Caniatewch o leiaf 1½ awr i weld y tŷ ac amser ychwanegol i weld y gerddi a’r arddangosfa.

    Sut i ddod o hyd i ni

    Mae ein cyfeiriad fel a ganlyn:

    Llancaiach Fawr Manor
    Gelligaer Road
    Nelson
    Treharris
    CF46 6ER

    Mae Maenor Llancaiach Fawr ar y ffordd B4254 rhwng Nelson a Gelligaer (tua 2 ½ milltir o’r A470).

    O draffordd yr M4 gadewch ar gyffordd 32 a dilynwch yr A470 tuag at Merthyr Tudful. Ar ôl tua 12 milltir trowch i’r dde wrth y gylchfan ag arwydd A472 Ystrad Mynach a dilynwch yr arwyddion adeilad hanesyddol brown trwy bentref Nelson.

    O ffordd A465 Heads of the Valley trowch i’r A470 tuag at Gaerdydd, dilynwch y ffordd hon heibio Merthyr Tudful a throwch i’r chwith wrth y gylchfan sydd ag arwydd A472 Ystrad Mynach. Dilynwch yr arwyddion adeilad hanesyddol brown trwy bentref Nelson.


    Trafnidiaeth gyhoeddus

    Teithio ar fws – mae 2 lwybr yn gwasanaethu Llancaiach Fawr ac mae’r ddau yn stopio wrth y llochesi bysiau y tu allan i’r brif fynedfa.

    Llwybr X38 (Pontypridd – Nelson – Llancaiach – Bargoed)

    Dydd Llun i ddydd Sadwrn, bob awr.

    Cysylltiadau ar gael gyda llwybr X4 i / o Gaerdydd

    Gweithredir gan Bws Morgannwg.


    Ymholiadau rheilffordd

    National Rail Enquiries Line – 08457 484950
    Arriva Trains Wales – arrivatrainswales.co.uk
    Network Rail – networkrail.co.uk /