Diweddariad Covid-19 >

Beth sydd ymlaen

yn Llancaiach Fawr

Digwyddiadau 2024

Gorffennaf 2024

Dydd Mercher, Gorffennaf 24ain 2024

Gweithdy Dewiniaeth £12.08

10:00 – Archebwch trwy EventbriteYn llawn.

12:00 – Archebwch trwy EventbriteYn llawn.

Yn galw ar bob gwrach a dewin ifanc i gychwyn ar daith gyfriniol fel erioed o’r blaen. Ymunwch â ni am weithdy hudolus, sy’n llawn rhyfeddod a syndod wrth i ni blymio i fyd hudolus dewiniaeth. Byddwn ni’n meistroli’r grefft o swyno i greu cymysgeddau sy’n newid lliw a chreu swigod a hisian. Byddwn ni’n cymysgu cynhwysion hudolus i gonsurio nadroedd, creu peli crisial sbonc a defnyddio’n dychymyg drwy wneud ein ffyn hud ein hunain. Yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn a bydd yn para 1 awr. Rhaid i rieni aros gyda’u plant.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Awst 2024

Dydd Mawrth, Awst 6ed – Dydd Gwener, Awst 9fed 2024

Pleserau a Diddordebau Traddodiadol

Dewch i ymuno â ni yn Llancaiach Fawr ar gyfer pleserau a diddordebau traddodiadol. Ewch yn ôl mewn amser a chymryd rhan mewn rhai gemau traddodiadol fel coetennau, sgitls a bat a phêl yn ogystal â thaith o amgylch y Maenordy. Gallwch chi hyd yn oed brofi diddordeb oesol saethyddiaeth, os bydd y tywydd yn caniatáu.

Dewch i edrych o gwmpas ein gerddi, siop anrhegion a mwynhau pryd o fwyd, te, coffi neu gacen yn ein caffi. Ar ôl i’r plant chwarae gemau traddodiadol Tuduraidd a Stiwartaidd, gallan nhw fwynhau ein maes chwarae’r 21ain ganrif.

Bydd pris mynediad arferol y maenordy yn berthnasol.

Dydd Mercher, Awst 14eg 2024

Gwyddoniaeth Sleim £12.08 pp

10:00 – Archebwch trwy Eventbrite

12:00 – Archebwch trwy EventbriteYn llawn.

Paratowch ar gyfer antur soeglyd, gludiog a hollol wych. Mae’r gweithdy hwn yn rhoi profiad ymarferol lle bydd gwyddonwyr addawol yn gwneud eu creadigaethau sleim eu hunain. O orielau disglair i gymysgeddau sy’n newid lliw. Yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn a bydd yn para 1 awr. Rhaid i rieni aros gyda’u plant.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Sadwrn, Awst 17eg 2024

Sioe Bedwellty

https://www.bedwelltyshow.co.uk/

Dydd Sadwrn, Awst 17eg – Dydd Sadwrn, Awst 31ain 2024

Arddangosfa Cymdeithas Celf Bargoed ac Ardal

Dewch i’r arddangosfa flynyddol hon a gweld gwaith ffantastig gan artistiaid talentog iawn. Mae mynediad am ddim a byddwch chi’n gallu gweld neu brynu gwaith sydd wedi’i beintio gan artistiaid lleol am brisiau sy’n wahanol i rai orielau.

Dydd Mawrth, Awst 20ain – Dydd Gwener, Awst 23ain 2024

Arfau a Rhyfela

Dewch i ddysgu am arfau ac arfwisg y Rhyfel Cartref.

Dydd Sadwrn, Awst 24ain 2024

Diwrnod i’r Cŵn

Bydd sioe gŵn flynyddol llawn hwyl ‘Barking Mad’ yn digwydd ddydd Sadwrn 24 Awst 2024.

Bydd stondinau, rafflau, deli i gŵn, arddangosiadau, yn ogystal â chastell neidio ar gyfer y plant, siop elusen dros dro ac, wrth gwrs, y sioe gŵn llawn hwyl ei hun! Pris mynediad y digwyddiad yw £3 i oedolion ac £1 i blant.

Mae’r sioe gŵn llawn hwyl yn boblogaidd bob amser a bydd pob cais i gystadlu yn cael eu gwneud yn ystod y dydd. Mae’r gatiau yn agor am 11am ar gyfer cofrestru i gymryd rhan yn y sioe gŵn. Mae’r dosbarth cyntaf yn dechrau am hanner dydd yn y prif gylch sioe. Pris mynediad y sioe gŵn yw £2 y ci fesul dosbarth, neu £10 y ci ar gyfer y dosbarthiadau i gyd.

Gallwch chi ddysgu rhagor o wybodaeth am ein gwaith a’r cŵn sy’n edrych am gartref maeth.

Mae’n ddiwrnod ardderchog i’r holl deulu ac mae’n ein helpu ni i godi arian sy’n hanfodol i achub bywydau cymaint o gŵn bob blwyddyn.

Dewch i gael hwyl a chefnogi achos teilwng ar yr un pryd!

Dydd Gwener, Awst 30ain, Dydd Sadwrn 31ain & Dydd Sul, Medi 1af 2024

Medi 2024

Dydd Sadwrn 7 Medi 2024

Dewch ymlaen Barbie, gadewch i ni fynd i barti! (Sinema Awyr Agored)

Archebwch trwy Eventbrite

Ydych chi’n barod i gael parti yn ystod digwyddiad sinema awyr agored y mis Medi hwn? Trwy garedigrwydd The Alfresco Film Company, ymunwch â ni a dianc i Barbieland am y noson! Gwisgwch yn eich gwisg binc gorau, dewch â’ch hoff gadair wersylla neu flanced bicnic a dewch yn gyfforddus am daith i’r Dream House/Mojo Dojo Casa House gyda Barbie a Ken!

Mae opsiynau seddi safonol a VIP ar gael. Mae tocynnau safonol yn costio £16.42 y pen a VIP yn costio £21.84.

Bydd digonedd o ddanteithion ar gael i’w prynu gan gynnwys cŵn poeth, byrgyrs a gin Prosecco pinc!

Bydd y gatiau’n agor am 6pm gyda’r ffilm i yn dechrau am 8pm. Daw’r ffilm i ben tua 10pm a bydd angen i’r holl westeion adael y safle erbyn 10.30pm.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Gwener, Medi 13eg 2024

Helfa Ysbrydion Lost Entity

Wedi’i drefnu gan Lost Entity, sy’n ymchwilio i rai o’r lleoliadau mwyaf dychrynllyd yn y DU. Mae eu henw da heb ei ail. Ymunwch â nhw am noson hela ysbrydion yn un o’r adeiladau mwyaf brawychus yng Nghymru. Gwiriwch a oes tocynnau ar gael trwy eu gwefan – https://lostentityparanormal.com/ghost-hunts

Dydd Mercher, Medi 25ain 2024

Cyfarfod Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer

Mae’r cymdeithas yn cwrdd ddydd Mercher olaf y mis rhwng mis Medi a mis Mehefin i wrando ar sgwrs. Mae croeso i bawb! Mae aelodaeth yn costio £10 y flwyddyn ar hyn o bryd ac mae cynfraniad gwirfoddol o £2 fesul sgwrs. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gelligaerhistoricalsociety.co.uk

Dydd Sadwrn, Medi 28ain 2004

Taith delweddau gwrachod ac ofergoelion yn y Maenordy £11.49

10:00 – Archebwch trwy Eventbrite

12:00 – Archebwch trwy Eventbrite

14:00 – Archebwch trwy Eventbrite

Ymchwiliwch i gredoau’r paranormal yn y gorffennol a’r presennol a darganfod sut roedd hud amddiffynnol yn diogelu rhag niwed a dylanwadau drwg.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Hydref 2024

Dydd Sadwrn, Hydref 5ed 2024

Gweithdy Ffeltio £33.22

10:00 – Archebwch trwy Eventbrite

Dathlwch newid y tymhorau yn gwnïo adar ffelt hardd. Nid oes angen unrhyw profiad blaenorol, bydd croeso i bobl o bob gallu!

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Gwener, Hydref 11eg 2024

Helfa Ysbrydion Lost Entity

Wedi’i drefnu gan Lost Entity, sy’n ymchwilio i rai o’r lleoliadau mwyaf dychrynllyd yn y DU. Mae eu henw da heb ei ail. Ymunwch â nhw am noson hela ysbrydion yn un o’r adeiladau mwyaf brawychus yng Nghymru. Gwiriwch a oes tocynnau ar gael trwy eu gwefan https://lostentity1.co.uk/uk-ghost-hunting-eventsanormal.com/events

Dydd Mawrth, Hydref 29ain – Dydd Gwener, Tachwedd 1af 2024

Treialon Gwrachod

Gwyliwch y wrach sydd wedi’i chyhuddo yn cael ei dwyn gerbron llys yr Ynad Heddwch, y Cyrnol Edward Prichard. Byddwch chi’n rhan o’r rheithgor sydd, yn y pen draw, yn penderfynu ar dynged y sawl wedi’u cyhuddo.

Bydd pris mynediad arferol y maenordy yn berthnasol.

Dydd Gwener 25 – dydd Sul 27 Hydref 2024

Arddangosfa grŵp Celf Trelewis

Bydd modd ymweld â’r Arddangosfa rhwng 10 o’r gloch a 4 o’r gloch Dydd Gwener 25 – Dydd Sul 27 Hydref, Dydd Mawrth 29 Hydref – Dydd Sadwrn 2 Tachwedd. Dewch draw i weld y darnau gwych o waith gan artistiaid talentog iawn. Byddwch chi’n gallu ymweld â’r Arddangosfa am ddim.

Dydd Mawrth, Hydref 29ain 2024

Cymysgedd Gaeaf

10:00 – Archebwch trwy Eventbrite

12:00 – Archebwch trwy Eventbrite

Mae hon yn antur trochi i greu cymysgeddau lle mae pob cymysgedd yn gampwaith arswydus. Gyda chrochanau’n byrlymu a rhew sych yn llifo, bydd gwneuthurwyr cymysgeddau ifanc yn creu eu helicsirau dirgel eu hunain. Rydyn ni’n annog cyfranogwyr i wisgo eu gwisg dewiniaeth fwyaf hudolus i ymgolli’n llwyr yn awyrgylch cyfriniol y gweithdy. Yn addas ar gyfer plant 4 oed a hŷn a bydd yn para 1 awr. Rhaid i rieni aros gyda’u plant.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Mawrth, Hydref 29ain 2024

Teithiau Ysbrydion £20.76

19:00 -Archebwch trwy Eventbrite

20:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Taith o amgylch y Maenordy yng ngolau ffagl gyda staff Llancaiach yn tywys i glywed y pethau gwir a rhyfedd sydd wedi digwydd i staff ac ymwelwyr dros y blynyddoedd.

 Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Mawrth 29 Hydref – Dydd Sadwrn 2 Tachwedd 2024

Arddangosfa Grŵp Celf Trelewis

Bydd modd ymweld â’r Arddangosfa rhwng 10 o’r gloch a 4 o’r gloch Dydd Gwener 25 – Dydd Sul 27 Hydref, Dydd Mawrth 29 Hydref – Dydd Sadwrn 2 Tachwedd. Dewch draw i weld y darnau gwych o waith gan artistiaid talentog iawn. Byddwch chi’n gallu ymweld â’r Arddangosfa am ddim.

Dydd Mercher, Hydref 30ain 2024

Cyfarfod Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer

Mae’r cymdeithas yn cwrdd ddydd Mercher olaf y mis rhwng mis Medi a mis Mehefin i wrando ar sgwrs. Mae croeso i bawb! Mae aelodaeth yn costio £10 y flwyddyn ar hyn o bryd ac mae cynfraniad gwirfoddol o £2 fesul sgwrs. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gelligaerhistoricalsociety.co.uk

Dydd Mercher, Hydref 30ain 2024

Teithiau Ysbrydion £20.76

19:00 – Archebwch trwy Eventbrite

20:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Taith o amgylch y Maenordy yng ngolau ffagl gyda staff Llancaiach yn tywys i glywed y pethau gwir a rhyfedd sydd wedi digwydd i staff ac ymwelwyr dros y blynyddoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Iau, Hydref 31ain 2024

Teithiau Ysbrydion i’r Teulu £20.76, £16.42

18:30 – Archebwch trwy Eventbrite

20:00 – Archebwch trwy Eventbrite

Dewch i glywed straeon am ddrychiolaethau a gweithgareddau ysbrydion ar y teithiau atmosfferig hyn sy’n addas ar gyfer plant rhwng 12 a 16 oed gyda’u teuluoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Teithiau Paranormal £20.76

21:30 – Archebwch trwy Eventbrite – Yn llawn.

23:00 – Archebwch trwy Eventbrite- Yn llawn.

Taith gyda’r nos o amgylch y Maenordy dan arweiniad staff Llancaiach gyda straeon am nifer o’r digwyddiadau ysbrydion sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Bydd offer sydd wedi cael eu defnyddio gan lawer o helwyr ysbrydion mwyaf blaenllaw’r byd yn cael eu dangos gan y staff yn ystod y daith. Bydd mesuryddion maes electromagnetig, synwyryddion effaith maes, pympiau electromagnetig, synwyryddion cyfeiriad ac agosrwydd yn helpu i ganfod unrhyw westeion heb wahoddiad sy’n penderfynu ymuno â ni!

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Tachwedd 2024

Dydd Sadwrn, Tachwedd 2il 2024

Teithiau Ysbrydion £20.76

19:00 – Archebwch trwy Eventbrite

20:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Taith o amgylch y Maenordy yng ngolau ffagl gyda staff Llancaiach yn tywys i glywed y pethau gwir a rhyfedd sydd wedi digwydd i staff ac ymwelwyr dros y blynyddoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Gwener, Tachwedd 8fed 2024

Teithiau Ysbrydion i’r Teulu £20.76, £16.42

18:00 – Archebwch trwy Eventbrite

19:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Dewch i glywed straeon am ddrychiolaethau a gweithgareddau ysbrydion ar y teithiau atmosfferig hyn sy’n addas ar gyfer plant rhwng 12 a 16 oed gyda’u teuluoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Sadwrn, Tachwedd 9fed 2024

Teithiau Paranormal £20.76 pp

19:00 – Archebwch trwy Eventbrite

20:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Taith gyda’r nos o amgylch y Maenordy dan arweiniad staff Llancaiach gyda straeon am nifer o’r digwyddiadau ysbrydion sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd. Bydd offer sydd wedi cael eu defnyddio gan lawer o helwyr ysbrydion mwyaf blaenllaw’r byd yn cael eu dangos gan y staff yn ystod y daith. Bydd mesuryddion maes electromagnetig, synwyryddion effaith maes, pympiau electromagnetig, synwyryddion cyfeiriad ac agosrwydd yn helpu i ganfod unrhyw westeion heb wahoddiad sy’n penderfynu ymuno â ni!

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Sadwrn, Tachwedd 16eg 2024

Teithiau Ysbrydion £20.76 pp

19:00 Archebwch trwy Eventbrite

20:30 Archebwch trwy Eventbrite

Taith o amgylch y Maenordy yng ngolau ffagl gyda staff Llancaiach yn tywys i glywed y pethau gwir a rhyfedd sydd wedi digwydd i staff ac ymwelwyr dros y blynyddoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Gwener, Tachwedd 22ain 2024

Teithiau Ysbrydion £20.76 pp

19:00 – Archebwch trwy Eventbrite

20:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Taith o amgylch y Maenordy yng ngolau ffagl gyda staff Llancaiach yn tywys i glywed y pethau gwir a rhyfedd sydd wedi digwydd i staff ac ymwelwyr dros y blynyddoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Sadwrn, Tachwedd 23ain 2024

Blas y Nadolig yn y Maenordy

Blasu bwyd o’r 17eg ganrif yn y Maenordy. Bydd croeso cynnes yn barod i chi yn y Maenordy gyda’r tanau wedi eu cynnau a’r gegin yn llawn arogleuon blasus wrth i’r cogydd weithio. Bydd digonedd o ddanteithion tymhorol blasus i chi roi cynnig arnyn nhw wrth fynd o gwmpas y Maenordy a hyd yn oed diod o’r 17eg ganrif i fynd gyda hyn. Byddwch yn gallu gwneud Tussie Mussie hefyd.

Dydd Sadwrn, Tachwedd 23ain 2024

Gweithdy Cwiltio £33.22

10:00 – Archebwch trwy Eventbrite

Ymunwch â ni am sesiwn creu clustog Nadolig!

Bydd ein grŵp talentog o ferched sy’n gwnïo yn darparu gorchudd clustog ac amrywiaeth o appliqués i chi ddewis ohonyn nhw er mwyn creu clustog arbennig o’ch dyluniad eich hun!

Bydd y sesiwn yn digwydd rhwng 10am a 3pm ac yn cynnwys egwyl ar gyfer cinio.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Mercher, Tachwedd 27ain 2024

Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer

Mae’r cymdeithas yn cwrdd ddydd Mercher olaf y mis rhwng mis Medi a mis Mehefin i wrando ar sgwrs. Mae croeso i bawb! Mae aelodaeth yn costio £10 y flwyddyn ar hyn o bryd ac mae cynfraniad gwirfoddol o £2 fesul sgwrs. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gelligaerhistoricalsociety.co.uk

Dydd Gwener, Tachwedd 29ain 2024

Teithiau Ysbrydion i’r Teulu £20.76, £16.42

18:00 – Archebwch trwy Eventbrite

19:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Dewch i glywed straeon am ddrychiolaethau a gweithgareddau ysbrydion ar y teithiau atmosfferig hyn sy’n addas ar gyfer plant rhwng 12 a 16 oed gyda’u teuluoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Dydd Sadwrn, Tachwedd 30ain 2024

Teithiau Ysbrydion £20.76 pp

19:00 – Archebwch trwy Eventbrite

20:30 – Archebwch trwy Eventbrite

Taith o amgylch y Maenordy yng ngolau ffagl gyda staff Llancaiach yn tywys i glywed y pethau gwir a rhyfedd sydd wedi digwydd i staff ac ymwelwyr dros y blynyddoedd.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Rhagfyr 2024

Dydd Sul, Rhagfyr 1af 2024

Te Prynhawn y Nadolig ar gael

Dathlwch dymor y Nadolig gyda the prynhawn hardd y Nadolig!

Mwynhewch ddanteithion blasus wrth edmygu golygfeydd o gefn gwlad Cymru, yn ogystal â’r goleuadau Nadolig traddodiadol yn ein bwyty, yr Ystafell Wydr, wrth gwrs.

Mae’n hanfodol cadw lle ac mae angen blaendal arnom ni. Am ragor o wybodaeth, ffoniwch 01443 412248.

Dydd Mercher, Rhagfyr 4ydd 2024

Cinio Nadolig ym mwyty’r Ystafell Wydr

Byddwn ni’n gweini cinio Nadolig ar ddydd Mercher ac ar ddydd Sul drwy gydol mis Rhagfyr, gan ddechrau ddydd Sul 1 Rhagfyr. Mae cinio’n costio £28.50 y pen (£14.95 plentyn) ac mae angen talu blaendal o £15 y person wrth gadw lle. Am ragor o wybodaeth, neu i gadw eich lle, ffoniwch 01443 412248.

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 7fed 2024

Ymchwiliad Ysbrydion Haunted Breaks

Wedi’i drefnu gan Haunted Rooms, darparwr profiadau dychrynllyd gorau y DU. Ymunwch â nhw am noson wefreiddiol o ymchwilio paranormal yn un o’r tai mwyaf brawychus yng Nghymru. Gwiriwch a oes tocynnau ar gael trwy eu gwefan – https://www.hauntedrooms.co.uk/ghost-hunts/llancaiach-fawr-manor

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 7fed 2024

Menter Caerffili

Dydd Mawrth, Rhagfyr 10fed 2024

Cyngerdd Carolau

Dydd Mawrth, Rhagfyr, 10, 7 o’r gloch

Dewch i ymuno â ni am Garolau ar y Clos, beth bynnag y tywydd!
Nid oes angen tocynnau arnoch, dim ond dewch i lawr.
Bydd diodydd poeth a lluniaethau ar werth.

Dydd Mercher, Rhagfyr 11eg 2024

Cinio Nadolig ym Mwyty Ystafell Gwydr

Byddwn ni’n gweini cinio Nadolig ar ddydd Mercher ac ar ddydd Sul drwy gydol mis Rhagfyr, gan ddechrau ddydd Sul 1 Rhagfyr. Mae cinio’n costio £28.50 y pen (£14.95 plentyn) ac mae angen talu blaendal o £15 y person wrth gadw lle. Am ragor o wybodaeth, neu i gadw eich lle, ffoniwch 01443 412248.

Dydd Mercher, Rhagfyr 11eg 2024

Cyfarfod Cymdeithas Hanesyddol Gelligaer

Mae’r cymdeithas yn cwrdd ddydd Mercher olaf y mis rhwng mis Medi a mis Mehefin i wrando ar sgwrs. Mae croeso i bawb! Mae aelodaeth yn costio £10 y flwyddyn ar hyn o bryd ac mae cynfraniad gwirfoddol o £2 fesul sgwrs. Am ragor o wybodaeth, ewch i’r wefan: www.gelligaerhistoricalsociety.co.uk

Dydd Gwener, Rhagfyr 13eg 2024

Noson Deyrnged Neil Diamond

Archebwch trwy Eventbrite

“Good times never seemed so good…” Mwynhewch noson o gerddoriaeth gyda’r act deyrnged Neil Diamond nos Wener 13 Rhagfyr. Mae’r tocynnau’n costio £30 (yn ogystal â ffi archebu fach) a bydd yn cynnwys pryd o fwyd 2 gwrs blasus!

Mwynhewch cinio twrci rhost traddodiadol gyda’r holl drimins (pys, moron, pannas wedi’u rhostio â mêl, tatws wedi’u rhostio a’u berwi a mochyn mewn blanced) a chacen gaws siocled ceirios i bwdin!

Mae’n dechrau am 7pm ac mae’r bar yn cau am 11pm.

Rhaid cadw lle drwy Eventbrite.

Dydd Sadwrn, Rhagfyr 14eg 2024

Disgo Tawel

Ymunwch â ni am barti trwy’r nos gydag un o’n Disgos Tawel! Ar gyfer oedolion yn unig, ddydd Sadwrn 14 Rhagfyr. Mwynhewch ddawnsio i ddewis o dair sianel – caneuon o’r 80au, caneuon o’r 90au a cherddoriaeth roc!

Mae’r tocynnau’n costio £30 (yn ogystal â ffi archebu fach) a bydd yn cynnwys pryd o fwyd 2 gwrs blasus; cinio twrci rhost traddodiadol gyda’r holl drimins (pys, moron, pannas wedi’u rhostio â mêl, tatws wedi’u rhostio a’u berwi a moch mewn blanced) a chacen gaws siocled ceirios i bwdin!

Mae’n dechrau am 7pm ac mae’r bar yn cau am 11pm.

Rhaid cadw lle drwy Eventbrite.

Dydd Sul, Rhagfyr 15eg 2024

Cinio Nadolig ym Mwyty Ystafell Gwydr

Byddwn ni’n gweini cinio Nadolig ar ddydd Mercher ac ar ddydd Sul drwy gydol mis Rhagfyr, gan ddechrau ddydd Sul 1 Rhagfyr. Mae cinio’n costio £28.50 y pen (£14.95 plentyn) ac mae angen talu blaendal o £15 y person wrth gadw lle. Am ragor o wybodaeth, neu i gadw eich lle, ffoniwch 01443 412248

Dydd Sul, Rhagfyr 15eg 2024

Parti Gwyddoniaeth Sion Corn £12.08 pp

10:00 – Archebwch trwy Eventbrite

12:00 – Archebwch trwy Eventbrite

Rhyddhewch eich creadigrwydd wrth i chi gamu i mewn i fyd hudol dylunio teganau Siôn Corn sy’n llawn trysorfa o ddeunyddiau, lliwiau a syniadau i ddyfeiswyr bach greu eu tegan caredig eu hunain a chael ychydig o hwyl gwyddonol ar hyd y ffordd. Perffaith ar gyfer plant 4 oed a hŷn. Rhaid i rieni aros gyda’u plant. Yn para am awr.

Mae’n rhaid cadw lle trwy Eventbrite. Mae’r pris yn cynnwys fioedd archebu Eventbrite.

Ddydd Sul, Rhagfyr 15 2024

Disgo Tawel i’r Teulu

Ymunwch â ni am barti gydag un o’n Disgos Tawel! Hwyl i’r teulu cyfan, ddydd Sul 15 Rhagfyr. Mwynhewch ddawnsio i ddewis o dair sianel – caneuon o’r 80au, caneuon o’r siartiau a chaneuon Disney!

Mae’r disgo yn dechrau am 2.30pm ac yn gorffen am 4.30pm. Rhaid i bob ymwelydd adael y lleoliad erbyn 5pm. Mae’r tocynnau’n costio £30 (yn ogystal â ffi archebu fach).

Rhaid cadw lle drwy Eventbrite.

Dydd Mercher, Rhagfyr 18eg 2024

Cinio Nadolig ym Mwyty Ystafell Gwydr

Byddwn ni’n gweini cinio Nadolig ar ddydd Mercher ac ar ddydd Sul drwy gydol mis Rhagfyr, gan ddechrau ddydd Sul 1 Rhagfyr. Mae cinio’n costio £28.50 y pen (£14.95 plentyn) ac mae angen talu blaendal o £15 y person wrth gadw lle. Am ragor o wybodaeth, neu i gadw eich lle, ffoniwch 01443 412248.

Dydd Sul, Rhagfyr 22ain 2024

Polisi Ad-daliad

Mae ad-daliadau’n gallu bod yn gyhoeddi i fewn 7 dydd cyn i’r digwyddiad.

Er mwyn derbyn eich ad-daliad ffoniwch 01443 412248 ac bydd aelod o’n tîm yn ymateb i chi i fewn 7 i 10 diwrnod.