Diweddariad Covid-19 >

Cyfeillion Llancaiach Fawr

yn Llancaiach Fawr

  • Cyfeillion Llancaiach Fawr

    Mae ffrindiau’n cyrraedd AM DDIM

    Os ymunwch â Chyfeillion Llancaiach Fawr, bydd gennych hawl i gael mynediad am ddim trwy gydol y flwyddyn *(Efallai y bydd rhai taliadau’n codi am ddigwyddiadau arbennig). Mae’n ffordd wych o ddilyn bywydau teulu Prichard a’u gweision trwy’r tymhorau cyfnewidiol ym mlwyddyn gythryblus 1645.

    Mae ffrindiau hefyd yn mwynhau eu digwyddiadau eu hunain, ac mae cylchlythyr yn eu cadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn y Faenor.

    Mae ffrindiau’n helpu Llancaiach Fawr mewn amryw o wahanol ffyrdd, ac yn ei chael hi’n hynod werth chweil. Ond peidiwch â phoeni os nad oes gennych amser i sbario. Y cyfan rydyn ni’n ei ofyn gan Ffrindiau yw eu bod nhw’n mwynhau Llancaiach Fawr ac yn dweud wrth bawb beth yw lle rhyfeddol.

    * Mae mynediad am ddim gyda cherdyn aelodaeth cyfredol.


    Beth yw pwrpws Cyfeillion?

    Mae’r Cyfeillion yn bobl o bob oed a chefndir, wedi’u huno gan ein brwdfrydedd dros Llancaiach Fawr a’i esblygiad byw o fywyd yn yr ail ganrif ar bymtheg. Dros y blynyddoedd, rydym wedi codi miloedd o bunnoedd i wella’r Faenor a’i gerddi.

    Rydym hefyd yn gweithredu fel sianel gost-effeithiol lle gall sefydliadau allanol gefnogi gwaith Llancaiach Fawr.

    I ofyn am ffurflen gais anfonwch e-bost at – llanciachfawr@caerphilly.gov.uk

    Cyfraniadau Cyfeillion Maenordy Llancaiach Fawr

    Mae’r Cyfeillion wedi bodoli ers 1991 ac maen nhw’n gasgliad amrywiol o bobl sydd wedi’u huno trwy eu brwdfrydedd dros Faenordy Llancaiach Fawr a’i bortread byw o fywyd yn yr ail ganrif ar bymtheg.

    Dros y 15 mlynedd diwethaf yn unig, rydyn ni wedi gwario bron i £24,000 yn prynu amrywiaeth o eitemau ar gyfer y Maenordy a’r gerddi. O ran adnoddau, rydyn ni wedi prynu deunyddiau ar gyfer llenni, dillad gwely a gwisgoedd ar gyfer staff y cartref. Yn ogystal â hyn, mae grŵp o wirfoddolwyr wedi creu ac yn cynnal a chadw’r eitemau, gan gyfrannu oriau di-rif tuag at gynnal y Maenordy a’r profiadau mae’n eu darparu.

    Roedd modd i ni wneud cyfraniad mawr tuag at adnewyddu’r atig, a oedd yn cynnwys sicrhau arian cyfatebol gan Sefydliad Laura Ashley. Fe wnaeth adborth gan y Sefydliad amlygu’r sylw i fanylion wrth greu dillad gwely ac ati.

    Ar gyfer lansiad yr arddangosfa newydd i groesawu ymwelwyr i’r Maenordy, fe wnaeth y Cyfeillion gyfrannu trwy brynu cas arddangos mawr, gan alluogi’r Maenordy i rannu rhagor o hanes y teulu Prichard.

    Yn fwy diweddar, rydyn ni wedi cyfrannu at yr offer chwarae awyr agored newydd, gan helpu i wella ymweliadau teuluoedd â’r Maenordy a chynnig cyfle i chwarae’n ddiogel yn yr awyr agored.

    Yn ogystal â phrynu adnoddau, mae’r Cyfeillion wedi gallu cyfrannu nifer helaeth o oriau yn gwirfoddoli. Fel y dywedwyd yn flaenorol, mae’r gwirfoddolwyr gwnïo wedi bod yn gymorth cyson ers blynyddoedd lawer ac yn fwy diweddar, mae gwirfoddolwyr wedi cynorthwyo diwrnodau gweithgaredd y Maenordy yn ystod gwyliau’r ysgol.

    Mae gwirfoddolwyr rheolaidd wedi cynorthwyo trwy stiwardio mewn digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan y Maenordy, gan gynnwys Eisteddfod yr Urdd, Sioe Bedwellte a’r digwyddiadau yn ymwneud â’r Ail Ryfel Byd. Mae eraill wedi cyfrannu trwy gynorthwyo’r dehonglwyr hanesyddol yn y Maenordy ei hun.

    Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi gallu atgyfodi ein grŵp garddio, sy’n cynnwys gwirfoddolwyr yn unig. Yn ogystal â phrynu planhigion ac ati, mae llawer iawn o fewnbwn corfforol wedi’i roi wrth glirio’r ardd berlysiau er mwyn galluogi ymwelwyr i ehangu eu profiad yn y Maenordy i gynnwys y gofod allanol.

    Mae Maenordy Llancaiach Fawr yn parhau i danio angerdd ymhlith pobl i archwilio stori’r teulu Prichard a deall y rhan wnaethon nhw chwarae ar adeg bwysig yn ein hanes. Mae’n anrhydedd i’r Cyfeillion fod yn rhan o’i daith a gwneud cyfraniadau pwysig a pharhaol.