Diweddariad Covid-19 >

Polisi Preifatrwydd

yn Llancaiach Fawr

Dyddiad Creu: 01/03/21
Dyddiad Cyhoeddi: 23/04/21
Rhif y Fersiwn: 1.01


Maes Gwasanaeth: Adfywio a Chynllunio
Maes Gwaith: Llancaiach Fawr
Manylion Cyswllt: Lesley Edwards – Rheolwr Cyffredinol (Ffôn: 01443412248, E-bost: edwarl2@caerphilly.gov.uk)
Enw’r Hysbysiad Preifatrwydd: Llancaich Fawr – Generalon
Disgrifiad o’r Hysbysiad Preifatrwydd: Bydd yr hysbysiad preifatrwydd hwn yn esbonio sut bydd    Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn defnyddio’r wybodaeth a roddwch pan fyddwch yn ymweld â Llancaiach Fawr, gwefan Llancaiach Fawr, yn cytuno i dderbyn deunydd marchnata gennym ni neu’n rhoi gwrthrychau i’w harddangos.


Sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth

Diben a sail gyfreithiol dros ddefnyddio eich gwybodaeth

Diben y gwaith prosesu

Mae Llancaiach Fawr yn faenordy hanesyddol/atyniad twristiaeth sy’n cynnig teithiau / digwyddiadau a derbyniadau, siop anrhegion, caffi a gwefan. Er mwyn darparu’r gwasanaethau hyn, efallai y bydd angen i ni brosesu data personol at y dibenion canlynol:

Ymwelwyr â Llancaiach Fawr (gan gynnwys y caffi, y siop anrhegion a’r wefan)

Cwcis y wefan (defnyddwyr y wefan yn unig)

  • Ffeil fach sy’n gofyn am ganiatâd i gael ei rhoi ar ddisg galed eich cyfrifiadur yw cwci. Ar ôl i chi gytuno, bydd y ffeil yn cael ei hychwanegu a bydd y cwci yn helpu i ddadansoddi traffig gwe neu’n rhoi gwybod i chi pan rydych chi’n mynd i wefan benodol. Mae cwcis yn caniatáu i raglenni gwe ymateb i chi fel unigolyn. Gall y rhaglen we deilwra ei gweithrediadau yn ôl eich anghenion, yr hyn rydych chi’n ei hoffi, a’r hyn nad ydych chi’n ei hoffi, drwy gasglu gwybodaeth am eich dewisiadau a’u cofio.
  • Yn gyffredinol, rydym yn defnyddio cwcis a’n cofnodion o’r tudalennau mae defnyddwyr wedi ymweld â nhw i gasglu gwybodaeth am ein holl ddefnyddwyr gyda’i gilydd, fel pa feysydd mae defnyddwyr yn ymweld â nhw amlaf a pha wasanaethau sy’n cael eu defnyddio amlaf. Dim ond gyda’i gilydd rydym yn defnyddio data o’r fath. Mae’r wybodaeth hon yn ein helpu i benderfynu beth sydd fwyaf buddiol i’n defnyddwyr, a sut gallwn barhau i greu profiad cyffredinol gwell i’n defnyddwyr a gwella ein gwefan er mwyn ei theilwra i anghenion cwsmeriaid.
  • Yn gyffredinol, mae cwcis yn ein helpu i roi gwefan well i chi, drwy ein galluogi i fonitro pa dudalennau sy’n ddefnyddiol i chi, a pha rai sydd ddim. Nid yw cwci, mewn unrhyw ffordd, yn ein galluogi i gael mynediad at eich cyfrifiadur nac i unrhyw wybodaeth amdanoch chi, ac eithrio data rydych chi’n dewis ei rannu â ni. Nid ydym yn defnyddio cwcis hysbysebu.

Marchnata

  • Os ydych chi wedi rhoi caniatâd, efallai y byddwn yn defnyddio’r manylion cyswllt rydych wedi’u rhoi i ni at ddibenion marchnata. Gallwch dynnu’r caniatâd hwn yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â ni.

Rhoi gwrthrychau

  • Rhoi gwrthrychau wedi’u cofnodi i’r Maenordy eu harddangos at ddibenion adnabod rhoddwyr.

Dibenion Eraill

  • Efallai y byddwn yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch i wella ein cynhyrchion a’n gwasanaethau, gan gynnwys ein helpu i ddeall anghenion a dewisiadau cwsmeriaid ac at ddibenion cadw cofnodion mewnol.

Sail gyfreithiol ar gyfer y gwaith prosesu

Er mwyn i brosesu data personol fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016, rhaid nodi amodau dilys o Erthygl 6 o’r Rheoliad, a amlinellir isod (nid ydynt ar gael yn Gymraeg gan mai dyfyniad o ddeddfwriaeth nad yw wedi ei gwneud yn Gymraeg ydyw):

Ymwelwyr â Llancaiach Fawr (gan gynnwys y caffi, y siop anrhegion a’r wefan)
1b. processing is necessary for the performance of a contract to which the data subject is party or in order to take steps at the request of the data subject prior to entering into a contract;

Marchnata
1a. The data subject has given his consent to the processing for one or more specific purposes.

Mae gennych hawl i dynnu eich caniatâd i brosesu’r wybodaeth hon yn ôl. I dynnu eich caniatâd yn ôl, cysylltwch â’r Maes Gwasanaeth y mae ei fanylion ar frig y ddogfen hon.

Rhoi eitemau
1c. processing is necessary for compliance with a legal obligation to which the controller is subject;

Darperir y rhwymedigaeth gyfreithiol gan Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd 1964 a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Dibenion Eraill a Chwcis y Wefan
1f. processing is necessary for the purposes of the legitimate interests pursued by the controller or by a third party, except where such interests are overridden by the interests or fundamental rights and freedoms of the data subject which require protection of personal data, in particular where the data subject is a child.


Pwy fydd yn cael mynediad at eich gwybodaeth

Manylion y Rheolydd Data a’r Swyddog Diogelu Data

Y Rheolydd Data o ran eich gwybodaeth chi yw Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Y Swyddog Diogelu Data yw:

Ms Joanne Jones
Rheolwr Llywodraethu Gwybodaeth Gorfforaethol/Swyddog Diogelu Data
E-bost: DiogeluData@caerffili.gov.uk
Ffôn: 01443 864322

Caiff gwybodaeth am ddeunydd archaeolegol a roddir ei chadw ar y cyd gan y swyddog cyfrifol yn Amgueddfa Tŷ Weindio. Caiff gwybodaeth o ymchwiliadau archaeolegol ei chadw ar y cyd ag Uned Archaeolegol Caerdydd a gyflawnodd y gwaith cloddio ac mae copïau o adroddiadau wedi’u cyflwyno i Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent.

Manylion am brif ddefnyddwyr eich gwybodaeth

Llancaiach Fawr (rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili) fydd prif ddefnyddiwr eich gwybodaeth. Gall adrannau eraill Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gefnogi Llancaiach Fawr drwy ddarparu gwasanaethau ar eu rhan, sy’n cynnwys y canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:

  • Adran Incwm – gall brosesu taliadau a dderbynnir a delio ag adennill dyledion.
  • Gwasanaethau Cwsmeriaid – gall brosesu taliadau a dderbynnir os cânt eu gwneud yn un o’n desgiau arian.

Manylion am unrhyw brosesyddion data allanol

Rydym yn cyflogi nifer o sefydliadau eraill i ddarparu gwasanaethau ar ein rhan, dan gontract, sy’n darparu cryn ddiogelwch ar gyfer eich gwybodaeth. Ymhlith y rhain mae:

  • Mailchimp – sy’n darparu gwasanaeth i’n galluogi ni i’ch e-bostio chi, gyda’ch caniatâd chi, at ddibenion marchnata.
  • Worldpay – sy’n prosesu taliadau ar gyfer ein llwyfan ar-lein.

Ceisiadau am wybodaeth

Mae’n bosibl y bydd yr holl wybodaeth a gofnodir sy’n cael ei chadw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn destun ceisiadau dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Diogelu Data 1998.

Os yw’r wybodaeth rydych chi’n ei darparu yn destun cais o’r fath, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymgynghori â chi pan fydd yn cael ei rhyddhau. Os ydych chi’n gwrthwynebu i’ch gwybodaeth gael ei rhyddhau, byddwn yn gwrthod rhoi eich gwybodaeth os yw’r ddeddfwriaeth berthnasol yn caniatáu hynny.


Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth

Mae pa mor hyd y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cadw gwybodaeth yn cael ei bennu drwy ofynion statudol neu arferion gorau.

Bydd manylion archebu, llogi, gwerthu a thalu yn cael eu cadw am 7 mlynedd. Cedwir yr wybodaeth at ddibenion archwilio ac ar gyfer helpu i wneud archebion eildro.

Os byddwch yn rhoi caniatâd at ddibenion marchnata, bydd eich manylion cyswllt fel arfer yn cael eu cadw hyd nes byddwch yn tynnu eich caniatâd yn ôl. Fodd bynnag, o bryd i’w gilydd, gallwn ofyn i chi gadarnhau unwaith eto eich bod yn rhoi caniatâd er mwyn i ni allu dileu cysylltiadau o’n cronfa ddata marchnata, nad ydynt yn dymuno i ni ddefnyddio eu manylion cyswllt at ddibenion marchnata mwyach.

Cedwir manylion rhoddwyr cyhyd ag y byddwn yn cadw’r arteffact.

Bydd data personol a gedwir at ddibenion eraill yn cael ei gadw ar ffurf sy’n datgelu pwy yw unigolion am ddim hirach nag sy’n angenrheidiol ac am uchafswm o 7 mlynedd.


Marchnata

Manylion marchnata

Os ydych chi wedi rhoi caniatâd i’ch manylion cyswllt gael eu defnyddio at ddibenion marchnata, byddwch wedi cael manylion y math o farchnata yr hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ei wneud, ynghyd ag unrhyw opsiynau fel sut hoffech i ni gysylltu â chi. Gallwch dynnu eich caniatâd i dderbyn marchnata yn ôl unrhyw bryd drwy gysylltu â’r Maes Gwasanaeth y mae ei fanylion ar frig y ffurflen hon.


Eich Hawliau (gan gynnwys y Weithdrefn Gwyno)

Eich hawliau o dan Ddeddf Diogelu Data 1998

Mae’r Ddeddf Diogelu Data yn rhoi nifer o hawliau i wrthrychau data (y rheini y mae’r wybodaeth yn ymwneud â nhw):

 

  • Hawl i gael mynediad at ddata gan y testun – mae ffurflenni cais ar gyfer y broses hon ar gael ar ein gwefan: Ffurflen Cais am Fynediad at Ddata gan y Testun (SAR)
  • Yr hawl i atal prosesu sy’n debygol o achosi niwed neu drallod.
  • Yr hawl i atal prosesu at ddibenion marchnata.
  • Hawliau sy’n ymwneud â phenderfyniadau awtomataidd.
  • Yr hawl i gael iawndal os bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn methu â chydymffurfio â rhai o ofynion y Ddeddf Diogelu Data yng nghyswllt eich gwybodaeth.
  • Yr hawl i gywiro, atal, dileu neu ddinistrio eich gwybodaeth mewn rhai amgylchiadau.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau ar gael yma: www.ico.org.uk

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych yn anfodlon â’r modd y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymdrin â’ch cais/gwybodaeth, mae gennych chi’r hawl i gwyno. Cysylltwch â’r Maes Gwasanaeth a fanylir ar frig y ddogfen hon gan amlinellu eich materion.

Os byddwch yn parhau’n anfodlon, mae gennych hefyd yr hawl i gwyno wrth Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.  Am ragor o wybodaeth am y broses gwyno, dilynwch y ddolen hon.