Diweddariad Covid-19 >

Maenordy a Theithiau

yn Llancaiach Fawr

  • Teithiau Dydd

    Mae Maenordy Falan Llancaiach ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul 10am - 5pm (mynediad olaf 4pm) ar gyfer teithiau dydd.

    Teithiau Ysbrydion

    Mae gan Faenor Llancaiach Fawr enw da haeddiannol am gael ei aflonyddu. Profwch y peth drosoch eich hun rhwng mis Hydref a mis Ionawr

    Ymweliadau Grŵp

    Gellir trefnu teithiau yn ystod y dydd a gyda'r nos ar gyfer hyd at 90 o bobl ar gyfer grwpiau ac mae ystod eang o opsiynau arlwyo ar gael hefyd.

    Ynglŷn â'r Maenordy

    Llancaiach Fawr Manor House

    Adeiladwyd yr adeilad rydych yn gweld nawr yn 1550 canrif ar gyfer Dafydd ap Richard. Cafodd y Maenordy ei ddylunio felly gellid ei amddiffyn yn hawdd yn ystod teyrnasiadau cythryblus brenhinoedd a breninesau Tuduraidd ac mae’n un o’r enghreifftiau gorau o faenordy lled-gaerog yng Nghymru heddiw.

    Mae’r dyluniad amddiffynnol gwreiddiol yn ymgorffori mynediad sengl, waliau pedair troedfedd o drwch yn amgáu grisiau cerrig troellog ar gyfer mynediad rhwng lloriau a drysau pren cadarn. Pan gaewyd y rhain yn ddiogel, roeddent yn rhannu’r Maenordy yn ddau a sicrhau bod yr adain ddwyreiniol fewnol yn darparu lle diogel o loches yn ystod cyfnodau cythryblus.

    Erbyn dechrau llinach Stuart, roedd y teulu Prichard wedi ffynnu a chafodd y tŷ ei ymestyn yn 1628 i ddangos eu statws. Roedd y Grisiau Mawreddog bellach yn caniatáu mynediad hawdd rhwng lloriau ac roedd dwy o’r ystafelloedd a ddefnyddiwyd gan y teulu wedi eu paneli gyda derw.

    Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin a’r Senedd yn 1642, cafodd Cyrnol Edward Prichard ei benodi yn Gomisiynydd Arae i’r Brenin, gan gael dynion ac arian ar gyfer achos y Brenhinwyr yn Sir Forgannwg.

    Erbyn canol 1645, roedd cefnogaeth yn cael ei golli a daeth Brenin Siarl y 1af ar daith ralio trwy Dde Cymru ac ymwelodd â Llancaiach Fawr am ginio ar 5ed o Awst. Heb gael argraff dda gan erfyniadau’r Brenin, yn fuan wedi hynny fe wnaeth y teulu Prichard a llawer o fonheddwyr eraill Morgannwg newid ochr i gefnogi’r Senedd ac fe wnaeth Cyrnol Prichard wedyn amddiffyn Castell Caerdydd yn erbyn y Brenhinwyr.

    Gall ymwelwyr heddiw gamu i mewn i’r Maenordy wedi ei adfer ac wedi ei ddodrefnu fel y byddai wedi bod yn 1645. Mae pob un o’r dodrefn yn yr ystafelloedd yn atgynhyrchiadau cywir o eitemau o gyfnod y teulu Pritchard yn y 16eg a’r 17eg ganrif a gall llawer o’r rhai gwreiddiol gael i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

    Darllenwch fwy am hanes y Maenordy >