Diweddariad Covid-19 >

Ddiweddariad pwysig: Arweinydd yn rhybuddio am benderfyniadau anodd i ddod

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, fel llawer o awdurdodau lleol eraill ledled Cymru, yn wynebu her ariannol enfawr dros yr ychydig flynyddoedd nesaf a bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn mantoli’r gyllideb.

Mae’n rhaid i’r Cyngor sicrhau arbedion o tua £45 miliwn dros y ddwy flynedd ariannol nesaf ac mae hyn ar ben yr £20 miliwn o arbedion parhaol sydd eisoes wedi’u nodi.

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd y Cyngor, “Ni allwn ni barhau i redeg ein gwasanaethau yn y ffordd arferol. Mae angen i ni archwilio pob opsiwn ac ystyried ffyrdd o wneud pethau’n wahanol.”

“Rydw i am fod yn onest â’r gymuned, oherwydd mae’n amlwg bod maint yr arbedion yn golygu bod angen i ni wneud rhai penderfyniadau anodd iawn dros y misoedd nesaf.”

Bydd y Cyngor yn ymgynghori ar nifer o gynigion allweddol a fydd, os ydyn nhw’n cael eu cytuno, yn helpu i gyflawni arbedion sylweddol:

Sefydliad y Glowyr, Coed Duon – Mae’r cyngor yn cynnig tynnu ei gymhorthdal yn ôl, a allai weld y lleoliad yn cau ddiwedd mis Rhagfyr 2024. Byddai’r awdurdod wedyn yn archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae’r cyngor yn darparu cymhorthdal o £347,000 y flwyddyn i redeg Sefydliad y Glowyr Coed Duon.

Maenordy Llancaiach Fawr – Mae’r Cyngor yn cynnig cau’r lleoliad ddiwedd mis Rhagfyr 2024 a bydd yn archwilio opsiynau i redeg y cyfleuster mewn ffordd wahanol yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn darparu cymhorthdal o £485,000 y flwyddyn i redeg y lleoliad.

“Mae gennym ni ddyletswydd i amddiffyn pwrs y wlad, felly byddwn ni’n edrych ar amrywiaeth o opsiynau arbed, yn enwedig gwasanaethau sy’n destun cymhorthdal uchel, sy’n anstatudol neu sy’n gallu cael eu darparu mewn ffordd wahanol.”

“Rydw i am sicrhau bod gan drigolion lais yn y broses hon, felly bydd cyfleoedd i gymryd rhan a dweud eich dweud wrth i ni ystyried yr opsiynau hyn. Mae’n hanfodol bwysig eich bod chi’n cymryd rhan yn y broses hon i helpu llunio’r ffordd rydyn ni’n darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol,” ychwanegodd y Cynghorydd Morgan.

Bydd yr ymgynghoriad yn weithredol o 30 Gorffennaf hyd at 10 Medi 2024, sef cyfnod o 6 wythnos. Gallwch chi weld y dogfennau ymgynghori a’r arolwg ar-lein, a dod o hyd i ble mae’r sesiynau galw heibio ar gyfer pob un o’r ymgynghoriadau yma

https://trafodaeth.caerphilly.gov.uk/sefydliad-y-glowyr-coed-duon-ac-llancaiach-fawr

I gael cymorth o ran llenwi’r arolwg neu i ofyn am fformatau eraill, cysylltwch â’r tîm drwy anfon e-bost i YmgysylltiadCyhoeddus@caerffili.gov.uk neu drwy ffonio 01443 864380

Croeso i dymor y Hydref!

Bydd ein safle yn cau ychydig yn gynharach, sef 4pm, ddydd Mercher 18 Medi. Sylwch y bydd y Maenordy ar gau o 3.45pm. Bydd angen i ymwelwyr gyrraedd cyn 2.15pm ar gyfer taith lawn (dyma fydd mynediad olaf y dydd). Bydd y caffi hefyd ar gau o 3.45pm. Diolch am eich cydweithrediad ac ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Rydym ar agor trwy gydol tymor y Hydref! (ar gau ar ddydd Llun).

Bydd teithiau o gwmpas y tŷ Faenordy yn digwydd ar amserau penodol ar y penwythnosau. Bydd teithiau ar gael am 10 o’r gloch neu 11:30 y bore ac 1:45 a 3:15 y prynhawn (mynediad olaf). Bydd y teithiau hyn yn teithiau tywys yn unig ac na fydd cerdded o gwmpas y tŷ ar eich hun yn ganiatáu. Nodwich nid ydy’r rheol hwn yn berthnasol am deithiau sy’n digwydd Dydd Mawrth i Ddydd Gwener.

Mae digwyddiadau ysbrydion arbennig gyda’n partneriaid yn cael eu cynnal trwy gydol y flwyddyn. Gweler ein tudalen ‘Beth Sydd Ymlaen’ am ragor o fanylion. Y prif dymor ar gyfer Ghost Tours yw Hydref, Tachwedd a Rhagfyr.
Nodiwch bod archebu ymlaen llaw yn hanfodol achos bod rifau derbyniad yn gyfyngedig.

Er mwyn osgoi cael eich siomi, ffoniwch ymlaen llaw i gael y wybodaeth ddiweddaraf am fynediad. Cysylltwch â ni ar 01443 412248 neu anfonwch e-bost atom drwy ein Tudalen Gyswllt i wneud eich archeb.

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra ond rydym yn cael problemau gyda’n peiriant ateb ac ar hyn o bryd nid ydyn ni’n gallu codi negeseuon.

Rydym yn dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru, peidiwch ag ymweld os oes gennych unrhyw symptomau o COVID19

Mae Tŷ Faenordy Llancaiach Fawr yw adeilad Gradd 1 ac roedd wedi ei adeiladu yng nghanol y ganrif 16ed. Gwelwch yma am wybodaeth hygyrchedd pwysig.

Aerial screen capture of the the Manor House

Y Faenordy yn y Cyfryngau

Gwelwch ni ar y sgrin, y ddau mawr ac yn bach. Gallwch gweld cysylltiadau i amrywiad o ymddangosiadau Llancaiach Fawr yn y cyfryngau a gwelwch ein cyfres o ffilmiau bach ar YouTube o’r enw ‘Bywyd yn y Faenordy’ a oedd wedi gwneud yn ystod adeg Covid.

Gwybod mwy >

Interpreter with schoolchildren 01

Ymweliadau Addysgol

Beth am roi cynnig ar ein hymweliad addysgol hanesyddol dan arweiniad cyfieithydd gyda’ch dosbarth ysgol neu goleg?

Rydym yn ddeiliaid balch Gwobr Sandford am ragoriaeth mewn addysg treftadaeth i gydnabod ein gwaith gydag ysgolion ledled y wlad.

Gwybod mwy >

Historic Interpreters greeting 03

Maenordy a Theithiau

Mae ein teithiau tywys yn darparu profiad rhyngweithiol person cyntaf i bob oed. Camwch yn ôl mewn amser ac archwilio Llancaiach Fawr gyda gweision y Cyrnol Edward Prichard.

Mae tymor Teithiau Ysbryd yn cychwyn ddiwedd mis Hydref ac yn para tan fis Chwefror. Paratowch i gael eich ofnu!

Gwybod mwy >

Priodasau yn Llancaiach Fawr

Llancaiach Fawr yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer eich diwrnod arbennig. Mae’n eistedd yn edrych dros amgylchoedd heddychlon Dyffryn Rhymney, o fewn 20 erw i dir deniadol.

Adeiladwyd y Faenor hanesyddol rhestredig gradd 1 yng nghanol yr 16eg ganrif ac mae wedi cael ei hadfer i’w hen ogoniant gyda’i thu mewn wedi’i ddodrefnu a’i ail-greu fel cartref Edward Prichard o’r 17eg ganrif.

Rydym am wneud eich diwrnod yn gofiadwy ac felly cymryd dim ond un archeb y dydd i sicrhau eich bod yn derbyn ein sylw heb ei rannu.

Darllenwch fwy am briodasau ym Maenor Fawr Llancaiach >

Cadwch mewn cysylltiad

Ymunwch â’n rhestr bostio i gael y newyddion a’r digwyddiadau diweddaraf yn Llancaiach Fawr

    Mwynhewch ystod o brofiadau ymweliad grŵp ym Maenor Falan Llancaiach

    Mwy am ymweliadau grŵp â Llancaiach Fawr

    Adolygiadau

    “Daethwn y prynhawn ‘ma gyda fy mhlant sy’n 8 a 6 oed ar ffordd nôl o Mountain Ash. Nid ydw i wedi bod i Llancaiach Fawr ers oeddwn i yn yr ysgol. Roedd cymaint gwell na chofiais! Roedd yn prynhawn ardderchog, roedd y staff i gyd mor ddiddorol a gwybodus ac eisteddodd y plant i wrando ar lawer o wybodaeth. Roeddwn i eisiau dweud diolch. Roeddwn i ceisio osgoi siopau a phethau gwyliau brysur ac rydw i mor falch a ddaethwn. Diolch!”